Ammanford made a poor start to the new calendar year with a heavy defeat away at Carmarthen Town.
A trio of goals saw the Old Gold secure their second victory over Town this season, leapfrogging Wyn Thomas’ men in the JD Cymru South table in the process.
Much like the home game between the two sides, Ammanford endured a disastrous start, finding themselves behind with barely a minute on the clock.
A long ball was not dealt with, allowing Noah Daley the chance to flick the ball past the onrushing Luke Martin.
Following the goal, the Old Gold remained in the ascendancy and went close through a trio of chances that fell to Daley, Toby Jones, and former Ammanford winger Jordan Langley. However, none of the efforts troubled the scorers.
It wasn’t until after the half-hour mark that Ammanford created their first real opening of the match. Some excellent pressing from the returning Tristan Jenkins and Lewis Reed forced the home side to surrender possession to Adam John on the edge of the area. However, his first-time effort flew inches over the bar.
Toby Jones then headed straight at Martin, but on the stroke of half-time, the visitors were grateful to goalkeeper Lee Idzi for keeping them in the game.
John turned beautifully inside the box and curled an effort towards the top left-hand corner, but Idzi, unsighted and acting instinctively, palmed the ball onto the crossbar, preserving his side’s deserved lead at the interval.
Idzi resumed his heroics after the break, producing a save of equal quality within five minutes of the restart. John squared the ball across the six-yard box to Jenkins, but somehow, Idzi flung himself across goal to keep the shot out with his legs.
The game became an end-to-end affair, with both sides creating chances. Martin saved a range of efforts from the home side, whilst John and Matthew Fisher went close from distance for the visitors.
With a quarter of an hour to go, Ammanford suffered a stroke of misfortune as they fell further behind. A cross was headed clear by deputising right-back Adam Morgan, but it cannoned off the post and straight into his path. With no time to readjust, the ball hit him and found its way into the net.
Carmarthen Town sealed the game just three minutes later as they scored a third goal. Daley robbed the Ammanford backline of possession in the Town half, rounded Martin, and calmly slotted the ball home, condemning the visitors to their second defeat of the festive period.
______________________________________________________________________________
Cafodd Rhydaman brynhawn i’w anghofio ar Barc Waun Dew wrth i Gaerfyrddin ennill o 3-0.
Roedd dau gôl Noah Daley a gôl i’w rhwyd ei hun gan Adam Morgan yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r hen aur mewn ail gêm dderbi o’r cyfnod Nadolig i’r du a gwyn.
Fel y gêm rhwng y ddau dîm yn gynharach yn y tymor, dechreuodd Rhydaman yn ofnadwy ac aethant ar ei hôl hi ar ôl munud o chwarae.
Cafodd pêl hir ei chwarae dros bennau amddiffyn Rhydaman a methon nhw ddelio gyda’r perygl. Cafodd Noah Daley y dasg syml o roi’r bêl yng nghefn y rhwyd.
Ar ôl y gôl, cadwodd y tîm cartref y momentwm ac aethant yn agos trwy gyfleoedd gan Daley, Toby Jones a chyn-chwaraewr Rhydaman Jordan Langley.
Cymerodd tan ar ôl hanner awr i Rhydaman gael eu cyfle cyntaf o’r prynhawn. Wnaeth Tristan Jenkins a Lewis Reed gloi’r gwagle yn gyflym ac wnaeth amddiffyn Caerfyrddin roi’r bêl i Adam John ond crimanodd e’r bêl fodfeddi dros y bar.
Peniodd Toby Jones yn syth at Martin ond roedd Caerfyrddin yn ddiolchgar i’w gôl-geidwad Lee Idzi am eu cadw nhw ar y blaen cyn yr egwyl.
Trodd John yn hardd y tu mewn i’r cwrt a throelli ymdrech tuag at y gornel chwith uchaf, ond Idzi, heb ei weld ac yn gweithredu’n reddfol, bwrodd y bêl i’r trawst i gadw mantais ei dîm.
Ailddechreuodd Idzi’r ail hanner ble gorffennodd e’r hanner cyntaf wrth iddo wneud arbediad o’r un safon o fewn pum munud i’r ailddechrau. Pasiodd John y bêl ar draws y cwrt bach i Jenkins, ond rywsut, taflodd Idzi ei hun ar draws y gôl i gadw’r ergyd allan gyda’i goesau.
Daeth y gêm yn frwydr pen-i-ben, gyda’r ddau dîm yn creu cyfleoedd. Achubodd Martin amrywiaeth o ymgeisiau gan y tîm cartref, tra aeth John a Matthew Fisher yn agos o bellter i’r ymwelwyr.
Gyda chwarter awr i fynd, dioddefodd Rhydaman anlwc wrth iddynt fynd ymhellach ar ei hôl. Cafodd crosiad ei benio’n glir gan y cefnwr de dirprwyol Adam Morgan, ond daeth y peniad oddi ar y postyn yn syth i’w lwybr. Heb amser i ailaddasu, bwrodd y bêl syth mewn i’w gorff ac i gefn y rhwyd.
Setlodd Caerfyrddin y gêm dim ond tair munud yn ddiweddarach wrth iddynt sgorio trydydd gôl. Dwynodd Daley y bêl oddi wrth amddiffyn Rhydaman yn hanner y Dref, mynd o gwmpas Martin, a tharo’r bêl adref, gan gondemnio’r ymwelwyr i’w hail golled o’r cyfnod gwyliau.